Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag

Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag

26 – 27 Mehefin 2021

Plas Bodfa, Llangoed, Cymru
a profiad ar-lein

Cyflwynir Seindiroedd a Plas Bodfa Projects:

Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag – archwiliad clywedol o Plas Bodfa

Plasdy 100 mlwydd oed, heb yr un bod byw yn byw yno ar y funud, ond ymhell o fod yn dawel. Mae ei strwythur yn cyfeirio gwyntoedd hyrddiog trwy bibelli dŵr, gan greu sibrydion bariton. Mae bylchau yn llechi’r to yn caniatáu i bwffiadau bach o aer ddod i mewn sy’n gwasgaru’n araf i wagleoedd sy’n atseinio. Mae teulu aflonydd o jac-y-dos yn byw mewn un atig mawr, tra bod ystlumod yn byw yn dawel mewn un arall. Mae dŵr yn diferu trwy bibelli na allwn ni eu gweld. Mae panel wedi’i ymylu gyda thâp swnllyd yn anadlu allan. Mae twll aer yn fflapio. Mae rhywbeth, yn rhywle, yn caeadu.

Rhan 1

GWRANDO – i ddarllediad ffrydio byw 24 awr gan Plas Bodfa

Bydd seiniau a grëir gan y tŷ ei hun a’r ardal gyfagos yn cael eu cymysgu’n fyw, eu hestyn a’u trin gan artistiaid sain a phobl greadigol leol a wahoddir yn ystod llif byw 24 awr.

  • Dydd Sadwrn, 26 Mehefin, yn ddechrau ar godiad haul (05:00)
  • yn fyw am 24 awr tan
  • Dydd Sul, 27 Mehefin, yn gorffen ar godiad haul (05:00)

Artistiaid sain a Pphobl greadigolI sy’n cymrud rhan yn y llif byw:

mae’r ffrwd fyw bellach wedi gorffen

Part 2

CREU – gweithiau sain ar gyfer Plas Bodfa.

Bydd recordiadau o’r ffrwd hon, ynghyd â seiniau o’r tŷ mewn tywydd amrywiol, ar gael i bobl greadigol ledled y byd i’w defnyddio wrth gyfansoddi gweithiau newydd.

Bydd y cyflwyniadau o’r alwad agored hon yn cael eu cyd-gyhoeddi fel albwm digidol ar y cyd gyda label cerddoriaeth arbrofol Gymreig Amgueddfa Llwch.

  • Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: hanner nos 14 Medi, 2021

mwy o wybodaeth albwm

  • Chaparral Andrew Hodges

    Bydd Chaparral Andrew yn datgelu tonau llawr trwy gamu polyrhythmig.

  • Carphology Collective

    Bydd Carphology yn chwarae cymysgedd ysgafn o synau tŷ pur er mwyn rhoi dechrau araf i’r bore.

  • Katherine Betteridge

    Bydd Katherine yn archwilio’r tŷ gyda’i ffidil, llais a thrawfforch.

  • Ynyr Pritchard

    Bydd Ynyr yn trawsnewid Plas Bodfa yn lle chwarae sonig, gan ymhelaethu ar ysbrydion y presennol.

  • etchasketch

    Bydd Etchasketch yn defnyddio bio-synwyryddion i drawsnewid planhigion anghlywadwy yn gerddoriaeth glywadwy.

  • Angela Davies

    Bydd Angela yn defnyddio derbynwyr electromagnetig band llydan a synwyryddion tra sonig.

  • Mark Albrow

    Bydd Mark yn ymestyn synau pryfed tŷ.

  • Bev Craddock

    Bydd synau crensiog o rimyn drafftiau Plas Bodfa yn cyfrannu at gasgliad Bev o giniawyr llwglyd yn y slot amser…

  • Zoë Skoulding & Alan Holmes

    Bydd Alan a Zoë yn rhoi llais i’r tŷ.

  • Post Premonition

    Bydd Post Premonition yn creu canllaw i’r tŷ a’i hanes.

  • Rêl Institiwt

    Bydd Real Institute yn gosod gêm gerdded gyda rheolau i sawl chwaraewr – pedescape.

  • Rob Spaull

    Bydd Rob yn gwneud defnydd creadigol o geblau lliwgar.

  • ANOIKIS

    Rhywle rhwng Cabaret Voltaire a’r Stooges, bydd ANOIKIS yn consurio art brut o synau a symudiadau.

  • Glyn Roberts – FFRWD

    Bydd FFRWD yn consurio golwg dystopaidd o ddyfodol sonig Plas Bodfa.

  • Super Group

    Bydd Super Group yn gwneud gwaith trwsio tŷ yno yn fyw.

  • ACCRETION ENTROPY

    Bydd y tri gwron acwstig yn brwydro pensaernïaeth wag. Rydym ni’n meddwl mai’r tŷ fydd yn ennill.

  • tom.m

    Bydd Tom yn cydnabod y paradocs o fod mewn tŷ sy’n wag.

  • Hopewell Ink

    Bydd Hopewell Ink yn defnyddio sŵn a’r gair llafar i alw ar ysbrydion Plas Bodfa.

  • Lisa Heledd Jones

    Bydd Lisa yn gosod meicroffon ar holltau mewn waliau a siandelïers llychlyd i greu ei neges sain ar gyfer y…

  • Amy Sterly

    Wrth iddi droi’n hanner nos, bydd Amy yn gwibio drwy’r tŷ, yn dirgrynu gwrthrychau, ysgrifennu, ysgrifennu ac ysgrifennu.

  • Charles Gershom

    Bydd Charles yn chwarae gyda phensaernïaeth acwstig hanfodol y tŷ.

  • Ed Wright

    Bydd Ed yn gwneud myfyrdod hwyr gyda’r nos ar fortar, llwch o dan yr hoelion, bywydau ac amser.

  • j Milo Taylor

    Bydd Milo yn paratoi’r tŷ gyda solenoidau mewn trefn sy’n taro rhythmau ar y waliau, gwresogyddion, lloriau a ffenestri.

  • Graham Hembrough

    Bydd Graham yn defnyddio meicroffon parabolig i ddod â’r tu allan y tu mewn wrth i’r wawr ddod â’n dau…

Y Rhaglen – O godiad yr haul tan godiad yr haul

Dydd Sadwrn 26 Mehefin

  • 05:00 – 06:00 – Chaparral Andy Hodges
  • 06:00 – 07:00 – Carphology Collective
  • 07:00 – 08:00 – Katherine Betteridge
  • 08:00 – 09:00 – Ynyr Pritchard
  • 09:00 – 10:00 – etchasketch
  • 10:00 – 11:00 – Angela Davies
  • 11:00 – 12:00 – Mark Albrow
  • 12:00 – 13:00 – Bev Craddock
  • 13:00 – 14:00 – Zöe Skoulding & Alan Holmes
  • 14:00 – 15:00 – Post Premonition
  • 15:00 – 16:00 – Real Institute
  • 16:00 – 17:00 – Rob Spaull
  • 17:00 – 18:00 – ANOIKIS (Melissa Pasut & Andrew Leslie Hooker)
  • 18:00 – 19:00 – Glyn Roberts – FFRWD
  • 19:00 – 20:00 – Super Group
  • 20:00 – 21:00 – ACCRETION ENTROPY
  • 21:00 – 22:00 – tom.m
  • 22:00 – 23:00 – Hopewell Ink
  • 23:00 – 24:00 – Lisa Heledd Jones

Dydd Sul 27 Mehefin

  • 00:00 – 01:00 – Amy Sterly
  • 01:00 – 02:00 – Charles Gershom
  • 02:00 – 03:00 – Ed Wright
  • 03:00 – 04:00 – j Milo Taylor
  • 04:00 – 05:00 – Graham Hembrough

 

Credits

Mae ‘Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag’ yn prosiect gan Seindiroedd a Plas Bodfa Projects mewn cydweithrediad â Amgueddfa Llwch, Listen to the Voice of Fire, Oscilloscope a Recordiau Prin.

Partners & Funders