Toriad -Manuel Rocha Iturbide (Mecsico)
Dydd Iau 28 & Dydd Sadwrn 30 Gorffenaf 2011 – 12pm
Tŵr y Cloc, y Stryd Fawr, Bangor
Perfformiad byw cyntaf Manuel Rocha Iturbide yng Nghymru.
Gyda phedwar triniwr gwallt proffesiynol ar Stryd Fawr Bangor bydd Iturbide, artist sain o Fecsico, yn rhoi cyfle i bobl gael trin eu gwallt am ddim. Ond bydd microffonau cudd a system chwyddo sain ar y stryd fawr hefyd i brosesu’r sain yn un cyfansoddiad byw.
Dewch draw i wrando ac i gael torri’ch gwallt!
Mwy am Toriad
Meddyliodd Iturbide am y syniad yn dilyn ei daith i’r India yn 1998, lle gwelodd pobl yn cael torri eu gwallt ar y strydoedd. Dywedodd:
“Mi gafodd argraff fawr arna i. Roeddwn wedi fy rhyfeddu yn clywed yr holl wahanol synau, yn cyflymu ac arafu am yn ail. Roedd yn swnio fel math newydd o aderyn neu bry! Yn ystod y perfformiad, byddaf yn addasu ac yn chwyddo’r sain, gan ddod â sŵn trin gwallt i strydoedd Cymru.” – Manuel Rocha Iturbide
Tocynnau
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim – does dim angen tocyn (ond os hoffech chi gael torri’ch gwallt am ddim, mae’r manylion isod).
Torri’ch Gwall am ddim
Trefnu i gael torri’ch gwallt am ddim drwy ddilyn y manylion isod (fe gewch chi ddewis pa steil, ond ni fydd y trinwyr gwallt yn golchi’ch gwallt).
SALES HAVE ENDED
Gweithdy
Bydd Iturbide hefyd yn cydweithio â phum artist sain a chyfansoddwr o ogledd Cymru mewn gweithdy arbennig i greu gweithiau celfyddyd sain newydd sbon. Dewch i Gadeirlan Bangor i glywed y darn terfynol. Mwy o wybodaeth.
Cydnabyddiaeth
Presented by Soundlands for Bangor Sound City.
Mewn cydweithrediad â Real Institute. Mae Dinas Sain Bangor yn derbyn cefnogaeth Pontio.