Iturbide Masterclass

Iturbide Masterclass – Manuel Rocha Iturbide (Mexico)

Gweithdy: Gorffennaf y 25ain tan y 27ain, 2011, Prifysgol Bangor
Sioe: Gorffennaf yr 28ain tan y 30ain, 2011, Cadeirlan Bangor

I gyd-fynd â pherfformiadau Toriad, bydd Manuel Rocha Iturbide, yr artist sain o Fecsico, yn cynnal gweithdy arbennig ar gyfer pum artist sain a chyfansoddwyr electroacwstig. Bydd yn tynnu ar ei brofiad ei hun fel artist sain, cyfansoddwr, ymchwilydd a churadur sydd wedi gweithio ledled y byd.

Bydd Alistair Attard, Scott Flesher, Ed Wright, Emma Louis a Chaparral Andrew Hodges yn creu gweithiau celfyddyd sain newydd. Dewch i Gadeirlan Bangor i glywed y darnau am y tro cyntaf.

Cydnabyddiaeth

Presented by Soundlands for Bangor Sound City in association with Pontio.

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, Electroacoustic Cymru a Chadeirlan Bangor. Diolch i’r Athro Andrew Lewis ac i Michelle Freeman.

Funders & Partners