Gweminar Seindiroedd
Dydd Mawrth, Mawrth y 29ain 2022
10:00 – 11:30yb
Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi gweminar Soundlands Sain, Y Gofod ac Affrica Is-Sahara.
Yn aml iawn mae Celf Sain yn rhyngddisgyblaethol, ac mae’n cynnig ffyrdd newydd sbon o weithio. Bydd y gweminar yn cynnig y canlynol:
- cyfle i fwrw golwg feirniadol ar gelf sain gyda’r artist a’r ysgrifenwraig, Dr Jane Grant
- astudiaeth maes yn Affrica Is-Sahara (SSA) gyda’r DJ a’r gerddores Ghanaidd, Rita Ray
- nifer o berfformiadau byw gan gerddorion ac artistiaid sain o Ghana, Cenia, Camerwn a De Affrica, gyda chyfansoddiadau gwreiddiol yn seiliedig ar micro-gomisiynau diweddar:
- Nyokabi Kariũki – Cenia
- Steloolive – Ghana
- Cara Stacey – De Affrica
- Joy Frempong – Ghana
- Joseph Kamaru / KMRU – Cenia
- Franck Biyong – Camerwn
- sesiwn gwahanu i grwpiau llai a thrafodaeth panel gyda Chwestiynau ac Atebion
Gyda diolch i’r Cyngor Prydeinig am eu cefnogaeth i gynnal y gweminar hwn fel rhan o ymchwil rhyngwladol parhaus gan Soundlands, mudiad celf sain o Gymru.
Cofrestrwch i ymuno gyda’r digwyddiad drwy Eventbrite gan glicio’r ddolen yma.
Rydym yn gobeithio y bydd modd ichi ymuno gyda ni!
—————————
Dr Emma Posey
Programme Development
Soundlands
—————————
Space, Sound & Sub-Saharan Africa is supported by the British Council Cultural Exchange programme, which supports cultural organisations, festivals, artists, and creatives between the countries of SSA* and the UK to create art, build networks, collaborate and develop markets and share artists’ work with audiences.