Sain, Y Gofod ac Affrica Is-Sahara

Sain, Y Gofod ac Affrica Is-Sahara
Chwefror 21, 2022 admin

Gweminar Seindiroedd
Dydd Mawrth, Mawrth y 29ain 2022
10:00 – 11:30yb

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi gweminar Soundlands Sain, Y Gofod ac Affrica Is-Sahara. 

Yn aml iawn mae Celf Sain yn rhyngddisgyblaethol, ac mae’n cynnig ffyrdd newydd sbon o weithio. Bydd y gweminar yn cynnig y canlynol:

  • cyfle i fwrw golwg feirniadol ar gelf sain gyda’r artist a’r ysgrifenwraig, Dr Jane Grant
  • astudiaeth maes yn Affrica Is-Sahara (SSA) gyda’r DJ a’r gerddores Ghanaidd, Rita Ray
  • nifer o berfformiadau byw gan gerddorion ac artistiaid sain o Ghana, Cenia, Camerwn a De Affrica, gyda chyfansoddiadau gwreiddiol yn seiliedig ar micro-gomisiynau diweddar:
  • sesiwn gwahanu i grwpiau llai a thrafodaeth panel gyda Chwestiynau ac Atebion

Gyda diolch i’r Cyngor Prydeinig am eu cefnogaeth i gynnal y gweminar hwn fel rhan o ymchwil rhyngwladol parhaus gan Soundlands, mudiad celf sain o Gymru.

Cofrestrwch i ymuno gyda’r digwyddiad drwy Eventbrite gan glicio’r ddolen yma.

Rydym yn gobeithio y bydd modd ichi ymuno gyda ni!

—————————
Dr Emma Posey
Programme Development
Soundlands
—————————

Space, Sound & Sub-Saharan Africa is supported by the British Council Cultural Exchange programme, which supports cultural organisations, festivals, artists, and creatives between the countries of SSA* and the UK to create art, build networks, collaborate and develop markets and share artists’ work with audiences.