Teffradot

Teffradot – Rebecca Horrox (Cymru / Lloegr)

Taith Opera

2015-17 | Am ddim
Cwm Idwal, Eryri

Opera newydd sy’n adrodd chwedl oesol yn Eryri ydy Teffradot. Fe fydd yr opera’n eich hebrwng, unrhyw bryd y mynnwch, wrth i chi gerdded drwy Gwm Idwal a’i dirwedd rewlifol; dim ond eich ffôn clyfar neu chwaraewr mp3 a chlustffonau cwpan caeedig fydd eu hangen arnoch.

Fe ddaw cymeriadau o’r cwm i adrodd hanesion yr arall fyd a chreaduriaid hyd a lledrith – creaduriaid tragwyddol a darfodedig y Cwm. Fe fydd blodau cigysol yn eich rhybuddio am y cawr cwsg darogan sydd dan y ddaear. Mae cigfran eurlygaid yn sefyllian ar lan y llun. Hollta’r mynydd cribog yr wybren tra, yn ei gysgod, mae merch ifanc yn mwytho bele’r coed. Teffradot ydy’r ferch; gwae’r nesaf a gyfarfo â hi. Fe fydd rhaid i Idwal Dywysog herio hon, dywysoges twyll.

Mae seiniau offerynnau hynafol a chyfoes yn canu gydag wyth llais wrth i Horrox drawsnewid alawon Cymreig ac atsain wyneb creigiog a threuliedig y mynydd.

Beth Fydd yn Digwydd

  • Fe fydd Taith Opera Teffradot yn mynd â chi am dro o gwmpas Llyn Idwal.
  • Fe fyddwch chi’n gwrando ar ffeil sain MP3 ar ffôn clyfar neu ddyfais debyg drwy benffonau cwpan caeedig (â chi yn unig yn clywed y sain).
  • Dilynwch y Canllaw wrth i chi wrando ar yr opera ac edmygu’r dirwedd mewn mannau penodol o’r daith.

 

Downloads

Pwysig: Cyn dechrau

Darllenwch Ganllaw Teffradot er mwyn gwybod sut y gallwch baratoi ar gyfer, a mwynhau, Taith Opera Teffradot:

Ganllaw Teffradot: PDF (Am ddim)

Mae’r daith yn dechrau ac yn dod i ben yng Nghanolfan Ymwelwyr Ogwen, Parc Cenedlaethol Eryri. Dewch mewn dillad addas, gyda’ch ffôn clyfar yn barod, penffonau cwpan caeedig a Chanllaw Teffradot.

Interzone Theatre App

Download the Internzone Theatre App (see Teffradot Guide for more details):

iTunes Apple iPhones (Free) Google Store Google apps (Free)

Rebecca Horrox

Mae Rebecca Horrox yn artist gweledol, cyfansoddwraig a pherfformwraig sy’n gweithio ym Mhrydain. Mae hi’n arddangos ei chyfansoddiadau drwy berfformio gweledol, cerddoriaeth a sain.

Mae Horrox yn teithio llawer fel aelod o Wet Sounds, er mwyn gwneud cyflwyniadau rhyngwladol mewn llefydd yn cynnwys Barbican Centre, Tate Britain a Mackay Festival of the Arts.

lahorrox.com

Comisiynau Soundlands

Dewiswyd Rebecca Horrox o dros gant o artistiaid o ledled y byd a oedd wedi anfon cais at gomisiynau celf
sain Soundlands ym Mangor a Chwm Idwal.

Beirniaid:  Ceri Hand, Annea Lockwood, Janek Schaefer, J Milo Taylor, Yann Seznec, Guto Roberts.

Fedrwch chi hefyd fwynhau Songsmith – comisiwn ar gyfer Bangor gan Jenna Burchell.

.

Credits

  • Libretto, cyfarwyddyd a sain gan Rebecca Horrox
  • Gwaith celf gan Conny Prantera a La Horrox

Cast

  • Angharad Davies – Ceffyl Dŵr
  • Ceri Rhys Matthews – Draig Arian, Y
  • Ceri Rhys Matthews – Llais (Cymraeg))
  • Ebe Oke – Y Llais (Seasneg)
  • Julie Murphy – Chwys yr Haul a Thafod y Gors
  • Meilir Jones – Craig
  • Sianed Jones – Teffradot
  • Steffan Rhys Hughes – Tywysog
  • Tor Marrock – Pen Bele, Duw Marwolaeth

Cerddorion

  • Alon Malka – Harmonium a’r piano
  • Ceri Rhys Matthews – Chwythbren, pibgorn, y pibgod, sruti a gitâr acwstig
  • Gwen Màiri – Y delyn
  • Michael York – Border pipes, pibau bychain a duduk

Diolch

  • Rhidian Griffiths
  • Nin & Simeon
  • Richmond Film Service
  • Fossil Studios London
  • Mwnci Studios West Wales
  • John Mason
  • Naomi Jones, Snowdonia National Park
  • Guto Roberts
  • Sain Records

Funders & Sponsors