Llosgi Piano – Annea Lockwood (UDA)
Dydd Sadwrn 29ain o Fehefin, 2013
6.15pm (drysau); 6:45pm (perfformiad)
Yr Hen Iard Nwyddau, Treborth, Bangor – Am Ddim
Caiff ail dymor Seindiroedd ei lansio â pherfformiad byw o waith Llosgi Piano Annea Lockwood fel rhan o ail-gread tri darn ei chyfres Trawsblaniadau Piano o’r chwedegau a’r saithdegau.
Cyfle prin i weld Annea Lockwood yn perfformio Llosgi Piano, ei gwaith arloesol o 1968 – cyfuniad o gelf, perfformiad, cerddoriaeth a gwledd i’r llygaid. Fel rhan o ŵyl celfyddydau sain bresennol Seindiroedd, cynhelir Llosgi Piano gan Gydweithfa Artistiaid yr Hen Iard Nwyddau a fydd hefyd yn dilyn y perfformiad â’u hymatebion artistig eu hunain.
Ni Ellir Trwsio’r Pianos
Yn unol â chyfarwyddiadau Annea Lockwood yn ei sgôr o 1969. Yn unol â chyfarwyddiadau sgôr Annea Lockwood o 1969, defnyddir piano na ellir ei drwsio.
Cysylltiad Byw
Bydd Saindiroedd yn cysylltu tri lleoliad i sgrinio darllediad byw o’i thri darn am un noson yn unig:
Llosgi Piano
Seindiroedd mewn partneriaeth â Gwyl Celfyddydol Harwich a Cydweithfa’r Hen Iard Nwydda:
Llosgi Piano – Annea Lockwood
Sadwrn 29 Mehefin, 2013
6.15pm (drws); 6:45pm (performiad)
Yr Hen Iard Nwyddau, Treborth, Bangor | Am ddim
Gardd Piano
Seindiroedd mewn partneriaeth â Golygfa Gwydyr yn cy wyno:
Gardd Piano – Annea Lockwood
Sadwrn 29 Mehefin, 11am
Caerdroia, Coedwig Gwydyr, Llanrwst | Am ddim
Eastern Exposure: Piano Transplant No.4
Gwyl Gelfyddydol Harwich mewn partneriaeth â Seindiroedd yn cy wyno:
Eastern Exposure:
Piano Transplant No.4 – Annea Lockwood
26 Mehefin – 7 Gorffennaf
Traeth Harwich
Perfformiadau Llosgi Piano
Perfformir gan Annea Lockwood (Seland Newydd/Unol Daleithiau) yng nghwmni’r gwesteion Xenia Pestova (Seland Newydd/Canada/Cymru), Ed Wright(Lloegr/Cymru) a Sarah Westwood (Lloegr).
Dilynir hyn gan ymatebion gan Gydweithfa Artistiaid yr Hen Iard Nwyddau a gwesteion yn cynnwys:
- Martin Daws – Molawd i Linynnau mewn Blwch, ymateb barddonol digymell gan Fardd Llawryfog Pobl Ifanc Cymru.
- ScrapYardQueen – Crafu, arbrawf symudiad sain-cerflunwaith rhwng Colin Daimond, Ricardo Critchlow a Rachel Rosen
- Urban Dance Collage – Symudiadau Hip Hop a Capoeira wedi’u trefnu gan Colin Daimond yn cynnwys Typewriter Percussion
- Tim Cumine – cyflwyniad ar hanes llosgi pianos
- Henry Horrell – Piano Morté, cyfansoddiad rhyngweithiol wedi’i recordio
- Brian Nylon – DJ Cerddoriaeth Hamddenol amlycaf Gogledd Cymru
Nodau
Bwyta a Chwrdd
Bydd lluniaeth ar gael a chyfle anffurfiol i gwrdd â’r artistiaid tra bydd Brian Nylon yn troelli disgiau lolfa sydd â naws piano.
Parcio
Dim parcio ar gael ar y safle. Parciwch ym Mhorthaethwy (pum munud ar droed).
Cyfarwyddiadau
Yr Hen Iard Nwyddau, Ger Treborth, Bangor, Gwynedd, LL57 2NX
Trowch oddi ar yr A5 ger Pont y Borth tuag at Erddi Botanegol Treboth, Bangor, yna dilynwch y llwybr cyntaf i’r chwith
Sylwer
Mae nifer gyfyngedig o lefydd ar gael i weld Llosgi Piano
About the Artist
Cydnabyddiaethau
Cyflwyniar gan Seindiroedd mewn partneriaeth gyda â Gŵyl Celfyddydau Harwich a Chydweithfa Artistiaid yr Hen Iard Nwyddau.
Diolch i: Dan Rosen; Rachel, Keith, Femke and a phawb yng Nghydweithfa’r Hen Iard Nwyddau; Roger Hughes; Andy, Xenia ac Ed yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Bangor; Rêl Institwt.
Ariennir Dinas Sain Bangor gan Gyngor Celfyddydau Cymru