INTER/actions: Symposiwm – Galw am gyflwyniadau

INTER/actions: Symposiwm – Galw am gyflwyniadau
Hydref 12, 2011 admin

INTER/actions: Symposiwm ar Gerddoriaeth Electronig Ryngweithiol

Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor, 10-12 Ebrill 2012

Gan gydweithredu ag Electroacwstig Cymru, Perygl o Sioc, Gr?p Ymchwil Gemini (Gestural Music Interaction) a Dinas Sain Bangor.

Prif gyflwynydd a chyfansoddwr: Karlheinz Essl, Fienna

Bydd INTER/actions yn symposiwm a gwyl fach dros dri diwrnod, yn canolbwyntio ar berfformio a rhyngweithio ym maes cerddoriaeth electronig. Rydym yn anelu at roi cyfle i gyfansoddwyr, perfformwyr, artistiaid sain a thechnolegwyr sydd diddordeb yn swyddogaeth y perfformiwr mewn cerddoriaeth electronig, pun a fyddo yn yr ystyr draddodiadol neu fel perfformwyr o fewn y gynulleidfa, gyfnewid syniadau a chychwyn ar brojectau cydweithredol. Rydym yn chwilio am gynigion creadigol ar gyfer perfformwyr, gosodiadau rhyngweithiol a sesiynau ar bapur.

Galwad am Gynigion: Darnau a Gosodiadau Rhyngweithiol

Dyddiad cau: 16 Rhagfyr 2011

Rydym yn gwahodd cyfansoddwyr a pherfformwyr i gyflwyno gweithiau ar gyfer offerynnau a dyfeisiau electronig rhyngweithiol, offerynnau a chyfryngau sefydlog, rheolwyr ystumiol a gosodiadau sain rhyngweithiol. Rhaid i gyfansoddiadau a gosodiadau gael eu dogfennu n llawn, gan gynnwys manylion technegol yngl n  pherfformio. Dylid cyflwyno recordiad mewn cyngerdd, recordiad stiwdio, efelychiad neu fideo, a fydd yn ddigon i roi syniad rhesymol am ffurf derfynol y darn/ gosodiad/ perfformiad.

Anfonwch gysylltiad darn clywedol ar-lein, neu ffeil mp3 trwy e-bost, ynghyd  gofynion technegol llawn a sg r, os yw n berthnasol, a bywgraffiad byr (150 o eiriau) at muse03@bangor.ac.uk. Os hoffech anfon copi caled, CD clywedol neu ffeiliau clywedol ar DVD yn lle hynny, anfonwch hwy at Dr Xenia Pestova, Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd LL57 2DG, DU, i gyrraedd erbyn 16 Rhagfyr 2011.

Bydd perfformwyr yn gallu defnyddio’r cyfleusterau canlynol:

  • Ailchwarae ar uchelseinydd 8-sianel (ATC)
  • Gwahanol ficroffonau (yn cynnwys Schoeps Collette ac AKG414)
  • Cymysgydd Soundcraft gyda mewnbynnau 16+16 (y gellir eu cyfnewid) 16 o allbynnau uniongyrchol, 8 gr?p, 2 gymysgydd, 4 AUX send, 2 FX send.
  • Cyfrifiadur Power Mac gyda MOTU PCI-424 a rhyngwyneb 24 I/O
  • 3 rhyngwyneb MOTU 828 FireWire
  • Tafluniad fideo ar sgrîn fawr
  • Piano traws cyngerdd Boesendorfer Imperial

Gofynnir i gyfansoddwyr/ perfformwyr sydd angen mwy o gyfarpar ddod  u cyfarpar eu hunain. Bydd disgwyl i gyfansoddwyr/ perfformwyr sy’n defnyddio eu meddalwedd eu hunain (er enghraifft patshys Max, SuperCollider) gymryd cyfrifoldeb dros osod y feddalwedd a’i rhoi ar waith, yn cynnwys darparu unrhyw lyfrgelloedd y bo eu hangen.

Galwad am Gynigion: Papurau ac Arddangosiadau

Dyddiad cau: 16 Rhagfyr 2011

Rydym yn agored i gynigion ar gyfer cyflwyniadau 20-munud, ar bapur ac ar ffurf arddangosiadau, ar bynciau yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Ymarfer perfformio mewn cerddoriaeth electronig
  • Ystumiau
  • Cynllun newydd ar gyfer rhyngwyneb
  • Materion cysylltiedig  chyfansoddi
  • Chwarae’n fyrfyfyr mewn cyd-destunau rhyngweithiol
  • Dadansoddi gweithiau rhyngweithiol

Anfonwch grynodeb o 250 o eiriau, ynghyd  bywgraffiad byr (150 o eiriau), at muse03@bangor.ac.uk.