Artistiaid Wet Sounds yn rhyddhau albwm newydd

Artistiaid Wet Sounds yn rhyddhau albwm newydd
Chwefror 17, 2015 admin
Parade image

Yn nigwyddiad cyntaf un Seindiroedd – Wetsounds gwelwyd Graham Bowers yn cydweithio gyda cherddor Nurse with Wounds, Stephen Stapleton. Arweiniodd y cyfarfyddiad cyntaf hwnnw at gydweithio pellach gan esgor ar albwm Rupture.

Wrth i ni baratoi at berfformiad arall o Wet Sounds ym Mangor ym mis Mawrth eleni, bydd y deuawd yn adeiladu ar lwyddiant Rupture gydag albwm dwbwl newydd o’r enw Parade. Mae Cynhyrchiad Celfyddydol Arbennig o’r alwm ar werth ar hyn o bryd cyn y lansiad swyddogol.

Mae pob albwm yn cynnwys darn o waith celf gwreiddiol, unigryw a rhagorol gan Steven Stapleton, sy’n cael ei adnabod hefyd wrth yr enw Babs Santini. Mae pob darn o gelf wedi ei gynhyrchu’n benodol ar gyfer y cynhyrchiad celfyddydol hwn o’r albwm. Mae pob un wedi ei rifo a’i lofnodi gan Steven. – Red Wharf