Llosgi Piano

Llosgi Piano – Annea Lockwood (UDA)

Dydd Sadwrn 29ain o Fehefin, 2013
6.15pm (drysau); 6:45pm (perfformiad)

Yr Hen Iard Nwyddau, Treborth, Bangor – Am Ddim

Caiff ail dymor Seindiroedd ei lansio â pherfformiad byw o waith Llosgi Piano Annea Lockwood fel rhan o ail-gread tri darn ei chyfres Trawsblaniadau Piano o’r chwedegau a’r saithdegau.

Cyfle prin i weld Annea Lockwood yn perfformio Llosgi Piano, ei gwaith arloesol o 1968 – cyfuniad o gelf, perfformiad, cerddoriaeth a gwledd i’r llygaid. Fel rhan o ŵyl celfyddydau sain bresennol Seindiroedd, cynhelir Llosgi Piano gan Gydweithfa Artistiaid yr Hen Iard Nwyddau a fydd hefyd yn dilyn y perfformiad â’u hymatebion artistig eu hunain.

Ni Ellir Trwsio’r Pianos

Yn unol â chyfarwyddiadau Annea Lockwood yn ei sgôr o 1969. Yn unol â chyfarwyddiadau sgôr Annea Lockwood o 1969, defnyddir piano na ellir ei drwsio.

Cysylltiad Byw

Bydd Saindiroedd yn cysylltu tri lleoliad i sgrinio darllediad byw o’i thri darn am un noson yn unig:

Cysylltiad Byw

Llosgi Piano

Piano Burning (1968 - Llundain)

Piano Burning (1968 – Llundain)

Seindiroedd mewn partneriaeth â Gwyl Celfyddydol Harwich a Cydweithfa’r Hen Iard Nwydda:

Llosgi Piano – Annea Lockwood
Sadwrn 29 Mehefin, 2013
6.15pm (drws); 6:45pm (performiad)
Yr Hen Iard Nwyddau, Treborth, Bangor | Am ddim

Gardd Piano

Piano Garden (1969-70 - Ingatestone, Essex)

Piano Garden (1969-70 – Ingatestone, Essex)

Seindiroedd mewn partneriaeth â Golygfa Gwydyr yn cy wyno:

Gardd Piano – Annea Lockwood
Sadwrn 29 Mehefin, 11am
Caerdroia, Coedwig Gwydyr, Llanrwst | Am ddim

Eastern Exposure: Piano Transplant No.4

Gwyl Gelfyddydol Harwich mewn partneriaeth â Seindiroedd yn cy wyno:
Eastern Exposure:

Piano Transplant No.4 – Annea Lockwood
26 Mehefin – 7 Gorffennaf
Traeth Harwich

Perfformiadau Llosgi Piano

Perfformir gan Annea Lockwood (Seland Newydd/Unol Daleithiau) yng nghwmni’r gwesteion Xenia Pestova (Seland Newydd/Canada/Cymru), Ed Wright(Lloegr/Cymru) a Sarah Westwood (Lloegr).

Dilynir hyn gan ymatebion gan Gydweithfa Artistiaid yr Hen Iard Nwyddau a gwesteion yn cynnwys:

  • Martin Daws – Molawd i Linynnau mewn Blwch, ymateb barddonol digymell gan Fardd Llawryfog Pobl Ifanc Cymru.
  • ScrapYardQueen – Crafu, arbrawf symudiad sain-cerflunwaith rhwng Colin Daimond, Ricardo Critchlow a Rachel Rosen
  • Urban Dance Collage – Symudiadau Hip Hop a Capoeira wedi’u trefnu gan Colin Daimond yn cynnwys Typewriter Percussion
  • Tim Cumine – cyflwyniad ar hanes llosgi pianos
  • Henry Horrell – Piano Morté, cyfansoddiad rhyngweithiol wedi’i recordio
  • Brian Nylon – DJ Cerddoriaeth Hamddenol amlycaf Gogledd Cymru

Nodau

Bwyta a Chwrdd

Bydd lluniaeth ar gael a chyfle anffurfiol i gwrdd â’r artistiaid tra bydd Brian Nylon yn troelli disgiau lolfa sydd â naws piano.

Parcio

Dim parcio ar gael ar y safle. Parciwch ym Mhorthaethwy (pum munud ar droed).

Cyfarwyddiadau

Yr Hen Iard Nwyddau, Ger Treborth, Bangor, Gwynedd, LL57 2NX
Trowch oddi ar yr A5 ger Pont y Borth tuag at Erddi Botanegol Treboth, Bangor, yna dilynwch y llwybr cyntaf i’r chwith

Sylwer

Mae nifer gyfyngedig o lefydd ar gael i weld Llosgi Piano

poster Llosgi Piano

About the Artist

Annea Lockwood is a New Zealand born composer now settled in the USA. During the 1960s she collaborated with sound poets, choreographers and visual artists, and also created a number of works such as the Glass Concerts which initiated her lifelong fascination with timbre and new sound sources.
In 1968, and in synchronous homage to Christian Barnard’s pioneering heart transplants, Lockwood began a series of Piano Transplants in which defunct pianos were burned, drowned, beached, and planted in an English garden.
Many of her compositions include recordings of natural ‘found sounds’ and can be heard on labels such as Lovely, Harmonia Mundi and Ambitus.

Cydnabyddiaethau

Cyflwyniar gan Seindiroedd mewn partneriaeth gyda â Gŵyl Celfyddydau Harwich a Chydweithfa Artistiaid yr Hen Iard Nwyddau.
Diolch i: Dan Rosen; Rachel, Keith, Femke and a phawb yng Nghydweithfa’r Hen Iard Nwyddau; Roger Hughes; Andy, Xenia ac Ed yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Bangor; Rêl Institwt.
Ariennir Dinas Sain Bangor gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Funders, Partners & Sponsors