Y Gloch

Y Gloch – Bouke Groen (Yr Iseldiroedd)

8 Mehefin – 11 Awst 2019

Dydd Llun – Dydd Sul 9.30am – 6.00pm

WWT Llanelli

Soundlands mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir (WWT) a Migrations yn cyflwyno Y Gloch gan Bouke Groen.

Dewiswyd Bouke Goen o blith cant a mwy o artistiaid o bob cwr o’r byd a oedd wedi anfon cynigion i Alwad Agored Soundlands 2019. Mae’r Gloch yn osodiad celf newydd trawiadol a grëwyd yn arbennig ar gyfer gwarchodfa Gwlyptir Llanelli. Dyma gloch eglwys hynafol sy’n canu cnul ond, yn rhyfedd ddigon, mae wedi ei hamgáu mewn cerflun o giwbiau gwydr.

Am ganrifoedd, mae clychau wedi bod yn ein rhybuddio ynghylch trychinebau o bob math. Ond rhag pa berygl mae’r gloch hon yn ein rhybuddio? A fyddwn ni’n cymryd sylw o’i rhybudd?

Yr Artist

Mae Bouke Groen yn artist gweledol o’r Iseldiroedd sy’n aml yn gweithio gyda sain. Yn ei waith mae Groen yn cwestiynu’r ffyrdd yr ydym yn rhyngweithio â’n gilydd a’n hamgylchedd. Nid yw Bouke yn cymryd ochr arbennig mewn dadl, ond yn hytrach mae’n ceisio adlewyrchu, heb farn, sut rydym yn trin ein gilydd a’r byd. Mae Groen wedi arddangos yn eang ar draws yr Iseldiroedd ond dyma’r tro cyntaf iddo arddangos yng Nghymru.

“Datblygodd y syniad o’r Gloch yn naturiol iawn. Yn Ffrisia lle’r ydw i’n byw, mae ‘na wlyptiroedd tebyg o’r enw’r Wadden. Rydw i’n adnabod yr ardal hon ac roeddwn i’n gallu darlunio’n hawdd sut y byddwn yn creu’r celfwaith. Mae WWT Llanelli yn lle rhyfeddol ac rydw i’n gobeithio y bydd fy ngwaith yno yn ennyn diddordeb.” – Bouke Groen

Canolfan Gwlyptir Llanelli

Yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli gallwch fwydo un o’r gwyddau prinnaf yn y byd â llaw, gweld fflamingos llachar, chwilota am drychfilod neu archwilio pyllau, mwynhau gwylio adar o’r cuddfannau a chrwydro’r warchodfa i weld gloÿnnod byw, gweision y neidr a llawer mwy!

Guided Walks

  • Guided walks to The Bell Wednesdays, Saturdays and Sundays at 12 noon.
  • Self guided walks to The Bell at all other times.

Find Us

  • WWT Llanelli
    Llwynhendy
    Llanelli
    Sir Gaerfyrddin SA14 9SH

Agored

Dydd Llun–Dydd Sul 9.30am–6.00pm
8 Mehefin–11 Awst 2019

Free. Entrance fee to WWT Llanelli payable see website or contact for details.

Partneriaid

Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir

Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir (WWT) yw’r prif sefydliad cadwraethol bydeang sydd wedi ymrwymo i ddiogelu gwlyptiroedd a phopeth sy’n byw ynddynt ac o’u hamgylch. WWT yw’r unig elusen yn y DU a chanddi rwydwaith cenedlaethol o ganolfannau gwlyptiroedd arbenigol y gall pobl ymweld â hwy. Cafodd ei sefydlu yn 1946 gan y diweddar Syr Peter Scott, y naturiaethwr a’r artist adnabyddus.

wwt.org.uk

Migrations

Cafodd Migrantions ei sefydlu yn 2004 ac mae’n dod â chelfyddydau cyfoes rhyngwladol i Gymru ac ar yr un pryd yn datblygu cyweithiau, comisiynau a phartneriaethau yng Nghymru a thu hwnt. Mae digwyddiadau blaenorol yn cynnwys: Museum of the Moon gan Luke Jerram (DU); TAPE gan Numen / For Use (Croatia); Treehugger gan Marshmallow Laser Feast (DU).

migrations.uk

Acknowledgments

Mae Soundlands yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Trefnir comisiwn Soundlands ar gyfer Canolfan Gwlyptir (WWT) Llanelli mewn partneriaeth â Migrations a’r WWT.

We are indebted to our Soundlands Open Call 2019 selectors Chris Watson, Jana Winderen, Maud Seuntjens, Brian Briggs, Karine Décorne and Dominic Chennell.

The Bell is made possible by:
Silverseal Glass & Glazing Co Ltd, Neath, UK
Installation company Posseth, Dronrijp, The Netherlands

Lluniau: Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir/ Bouke Groen

Funders, Partners & Sponsors