Sound Car

Sound Car – Richard Higlett (Cymru)

7 – 9 Ebrill
Bangor, Bethesda, Betws-y-Coed

Taith & Gweithdai Agored, AM DDIM

  • Dydd Sadwrn 7 Ebrill, 2 – 4 yh, Tŵr y Cloc, Bangor
  • Dydd Sul 8 Ebrill (Sul y Pasg), 2 – 4 yh, Maes Parcio Gwybodaeth Ymwelwyr, Betws y Coed
  • Dydd Llun, 9 Ebrill, 2 – 4 yh, maes parcio Spar, Bethesda

Edrychwch allan am gar sain Richard Higlett yn cludo sain Pont y Borth i mewn i Fangor ac Eryri. Roeddech yn gallu gweld (a chlywed) y car yn bob man, ar bob amser wrth iddo, ynghyd a Jodi Rose, fynd a’r system sain ar dô y car o amgylch Gogledd Cymru.

Gallwch ei ddal ym Mangor, Betws a Bethesda ar yr amseroedd uchod pan allwch gymryd rhan mewn gweithdy am ddim allan o gist y car sain

Car Sain

Mae Car Sain Richard Higglett yn uchelseinydd pwerus ar dô Ford Fiesta ddiymhongar. Mae’r cerbyd yma yn newid i fod yn declyn i artistiaid sain, cerddorion arbrofol a pherfformwyr llafar. Gan fod yn rhywbeth tebyg i swyddogaeth cyhoeddwr tref, bydd y Car Sain yn teithio ar yr A5 i berfformio ymyriadau sonig ym Mangor, Bethesda a Betws y Coes, gan greu gwaith wrth gasglu synnau a recordiadau o leisiau lleol pan ddaw o hyd i encilfaon, ymylion hewlydd, neu rhywle i barcio.

Cydweithio

Gan weithio gyda’r artist sain o Awstralia Jodi Rose, bydd Higlett yn cludo synnau Pont y Borth i ganol Bangor, ar hyd yr A5 i Fethesda a wedyn i Fetws y Coed.

Hanes

Cafodd prosiect y car sain ei lawnsio fel GPS (Gallery of Portable Sound)’yn Mis Hydref 2011 ar y cyd gyda prosiect sain 3 person Bear-Man. Roedd ‘All These Worlds are Yours’ yn cynnwys ymateb mewn amser real o tu fewn y car i beth oedd tu allan y ffenestri. Wrth edrych ar gylfannau o amgylch Caerdydd, wnaeth y band creu cylch sonig yn yr amgylchedd ddinesig. Roedd y darn wedi ei ddylanwadu yn rhannol gan ddulliau rhyfel sonig a sut mae sain yn cael ei ddefnyddio i effeithio emosiynnau.

Artist

Mae Richard Higlett yn artist gweledol sydd yn gweithio fwyfwy gyda sain. Mae prosiectau yn y gorffennol wedi cynnwys elfennau a allai gael eu dehongli fel ‘gweithred o ffolineb’ ond gan ddangos rhywbeth sydd ddim i gael, mae modd i rhywbeth gael ei ddiffinio mewn ffordd dyfnach. Yn 2008, creodd y darn dadleuol, ‘Song for Jack’, gan ddefnyddio côr o gŵn mewn teyrnged i ‘Swansea Jack’, yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Mae Higlett hefyd yn arddangos gwaith fel yr artist ffug Wally French, arluniwr tirweddau 80 mlwydd oed. Mae hefyd yn gyd grëwr o Goat Major Projects sy’n agor yng Nghaerdydd yn Ebrill 2012.

Cydnabyddiaethau

Presented by Soundlands for Bangor Sound City in association with Pontio.

Thanks to the University of Bangor School of Music.

Funders & Partners