Mae Songsmith Eglwys Gadeiriol Bangor yn canu stori sy’n mynd yn ôl i’r 6ed ganrif pan adeiladwyd ffens bren syml o amgylch mynachlog fechan. Yr enw ar y math yma o ffens oedd bangor. O gwmpas y bangor hwn dechreuodd cymuned fechan dyfu. Heddiw mae’r Eglwys yn eistedd yng nghanol beth sydd erbyn hyn yn cael ei alw’n ddinas Bangor.
Mae waliau’r Eglwys wedi eu trwytho gyda gweddïau a chaneuon y miloedd o bobl sydd wedi bod yno dros y canrifoedd. Er ei fod yn llawn hanes hir a chyfoethog mae bywiogrwydd modern ynghlwm â’r Eglwys sy’n dod o brysurdeb canol y ddinas. Y Canon presennol, Canon Dr. David Fisher sy’n adrodd y stori yma. Mae ei lais wedi ei gymysgu mewn cyfansoddiad gyda Chôr Ieuenctid Eglwys Gadeiriol Bangor, hen esgoblyfr sy’n byw yn yr Eglwys ar gân gan Joseph Harper, a synau o ganol y ddinas.
Yn addas, mae’r Songsmith yma yn trwsio hollt yn wal derfynol hanesyddol yr Eglwys. Dewch o hyd iddo wrth ymyl grisiau mynedfa’r Eglwys Gadeiriol wrth ymyl tafarn fywiog y Castell.
Cyfranwyr: Y Canon Ddr. David Fisher (adroddwr), Joseph Harper (cân), Cynulleidfa Eglwys Gadeiriol Bangor (cân), Côr Ieuenctid Eglwys Gadeiriol Bangor (cân), Eve Butler (adroddwr), June Marshell (adroddwr).