Dewch o hyd i Songsmith Pier y Garth ar ben draw’r pier, ar y pafiliwn olaf ar y dde, fel atgyweiriad i’r 13 estyllen sydd ar goll o odreon to’r pafiliwn.
Mae’r pier, a agorwyd yn 1896, heddiw yn un o’r tri phier coethaf sydd wedi goroesi ym Mhrydain. Roedd yn boblogaidd iawn yn y gorffennol ond erbyn hyn mae’n adfeiliedig ac yn wynebu dyfodol ansicr. Mae Songsmith Pier y Garth yn canu cân o atgofion, amseroedd a storïau am y cymeriadau a’r digwyddiadau sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r pier dros yr amser.
Mewn sawl ffordd, mae’r pier yn lle hudolus, lle mae modd teimlo’r gorffennol yng nghanol y presennol. Mae profiadau’n newid ar y pier yn union fel y tywydd, weithiau mae’n hapus, weithiau mae’n drist, gan ddibynnu ar bwy sy’n dod i’r pier a beth mae’r pier yn ei olygu iddyn nhw. Mae’n tueddu i ddwyn eich calon y naill ffordd neu’r llall.
Mae’r stori hon wedi ei chyfansoddi drwy gysylltiadau Jenna â pherchnogion siopau a chaffis lleol y Pier, saith maer blaenorol Dinas Bangor a cherddorion, cyfansoddwyr a chantorion lle mae’r pier wedi ysbrydoli eu gwaith.
Cyfranwyr: John Martin (Maer Dinas Bangor 1998/2001), Doug Madge (2006/2013), Doreen Madge, Derek Hainge (1998/2007), Eve Butler (1995/2015), June Marshell (2003), Keith Marshell (1996), Mared Emlyn (telyn), Wyn Thomas (adroddwr), Terry TBC (adroddwr, gitâr a chân), Caenwen TBC (adroddwr), Hedd Thomas (cyfansoddwr ‘Si hei lwli ‘mabi’), Côr Siambr Prifysgol Bangor (cân).