Cyfle i ennill comisiynau sy’n rhan o Seindiroedd
Mae Soundlands yn cynnig cyfle i artistiaid sain greu darnau o waith celf sain.
Mae comisiynau ar gael i ddau artist greu naill ai gosodwaith neu berfformiad sain, gydag un o’r gweithiau i’w gyflwyno yn ninas Bangor a’r llall yng Nghwm Idwal.
Fe all y gwaith fod yn waith gwreiddiol neu’n waith wedi ei ail-lunio’n arbennig ar gyfer y cyd-destun penodol hwn. Mae’n rhaid, fodd bynnag, i’r gwaith fod yn un na chafodd ei arddangos o’r blaen, ar unrhyw ffurf, yn unman yng Nghymru.
Y gwaith i’w arddangos rhwng Mehefin a Gorffennaf 2015
Cwm Idwal
Mae Cwm Idwal yn gwm hynod yng nghanol rhai o fynyddoedd uchaf a golygfeydd mwyaf trawiadol Eryri. Mae pen ucha’r cwm yn fowlen gron wedi ei naddu o’r graig gan rewforoedd hynafol ac wedi ei llenwi gan ddyfroedd du Llyn Idwal. Mae’r cwm a’r llyn wedi eu henwi ar ôl Idwal, a oedd yn fab un o dywysogion Gwynedd a foddwyd yma gan elyn uchelgeisiol. Mae’r lle’n enwog hefyd am ei greigiau a’i blanhigion prin a bregus ac am iddo o’r herwydd gael ei ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol cyntaf Cymru; mae o hefyd yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol.
Bangor
Mae Bangor yn ddinas hanesyddol llawn cymeriad. Mae yma Prifysgol a Chadeirlan a golygfeydd hyfryd o afon Menai o bier ail hiraf Cymru. Fe sefydlwyd y Prifysgol fel canlyniad i ymgyrch gref yn y 19eg ganrif dros gael darpariaeth addysg uwch yng Nghymru, ac un o nodweddion arbennig ei sefydlu oedd cyfraniadau ariannol y bobl leol, y ceiniogau a roddwyd gan chwarelwyr a ffermwyr yr ardal, tuag at ei chodi. Mae posib olrhain hanes Cadeirlan Esgobaeth Bangor yn ôl i’r 6ed ganrif pan gododd Sant Deiniol fangor o wiail o gwmpas ei gell Cristnogol. Mae poblogaeth barhaol Bangor yn fach, tua’r 17,000, ond mae hi’n cael ei chwyddo bob tymor gan mwy na 10,000 o fyfyrwyr y Brifysgol. Ynghanol y dref mae ardal siopa a honno wedi ei chanoli o gwmpas y stryd fawr. Ar ei hochr ddwyreiniol mae stad dai fawr Maesgeirchen ac yn amlwg ar ei hochr orllewinol mae’r enwog Bont Menai ac Ysbyty Gwynedd.
Cyd-destun Cefnogaeth Ariannol ac Adnoddau
- Bydd rhestr fer o dri’n cael ei llunio ar gyfer y naill gomisiwn a’r llall. Bydd yr artistiaid ar y rhestrau byrion yn derbyn £100 tuag at gost datblygu eu syniadau ymhellach.
- Bydd yr artistiaid llwyddiannus yn derbyn ffi gomisiwn o £1,000, a bydd arian hefyd i dalu am y gwaith dylunio, y gwaith cynhyrchu, y deunyddiau, costau gosod/perfformio’r gwaith ynghysd â threuliau cytunedig.
- Bydd y gefnogaeth i’r gwaith cynhyrchu yn dod oddi wrth Soundlands.
Amserlen
- Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r syniadau: 13eg o Chwefror 2015
- Cyhoeddi’r rhestrau byrion: 27ain o Chwefror 2015
- Dyddiad cau ar gyfer y syniadau datblygiedig: 7fed o Ebrill 2015
- Cyhoeddi’r enillwyr: 17eg o Ebrill 2015
- Arddangos y gwaith: 19eg o Fehefin – 31ain o Orffennaf 2015
Cofnodi
Bydd Soundlands yn cofnodi’r proses creadigol, y gwaith cynhyrchu, yr arddangos a’r perfformio. Bydd artistiaid yn cael eu dethol i gymryd rhan yn y proses ac yn cael eu hannog i fod yn rhan weithredol ohono.
Lleoliad
Bydd dau gomisiwn, un ar gyfer Bangor a’r llall ar gyfer Cwm Idwal. Mae union leoliad y gosodweithiau neu berfformiadau terfynol i’w penderfynu rhwng yr artist a Soundlands ar ôl ystyried yr anghenion artistig ac ymarferol. Ymhlith yr hyn a fydd angen ei ystyried mae’r cynlynol:
Comisiwn Bangor
- Mae’n rhaid lleoli’r gwaith ym Mangor, Gwynedd.
- Mae’n rhaid lleoli’r gwaith mewn lle cyhoeddus lle bydd llawer o bobl yn ei weld.
- Mae’n rhaid i’r gwaith (os ydi o’n osodwaith) allu bod yn ei le heb fod angen ei warchod yn barhaus. (if an installation-type proposal).
Comisiwn Cwm Idwal
- Mae’n rhaid lleoli’r gwaith yng Nghwm Idwal.
- Rhaid i’r gwaith beidio ag achosi unrhyw niwed na newid parhaol i’r tirlun nac i ecoleg y cwm.
- Mae’n rhaid i’r gwaith (os ydi o’n osodwaith) bod yn ei le heb fod angen ei warchod yn barhaus.
Addasrwydd
Mae hwn yn gyfle addas i artist:
- sydd â’i waith yn ymdrin ag unrhyw fath o gelf sain
- sydd â diddordeb mewn gwaith wedi ei greu ar gyfer safleoedd penodol
- sydd â diddordeb mewn cydweithio â Soundlands
- sydd â diddordeb mewn creu gweithiau celf a fydd yn gwella ymwneud pobl â’u llefydd cyhoeddus
Cymhwyster
- Mae’n rhaid i’r artist fod ar gael i greu, datblygu a gosod / perfformio’r gwaith rhwng Ebrill a Gorffennaf 2015.
- Ni chaiff yr artist fod yn aelod cyflogedig o staff Datrys (Cwmni Datrys Cyf.), Soundlands, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri na Chyfoeth Naturiol Cymru.
Cyfnod arddangos
- Y gosodwaith i’w osod yn ei le yn niwedd mis Mehefin 2015, ac i aros yno am o leiaf mis.
- Y perfformio i ddechrau yn niwedd Mehefin 2015 (nifer y perfformiadau i’w trafod).
Sut i wneud cais
I wneud cais am gomisiwn, anfonwch yn manylion canlynol:
- Eich enw, cyfeiriad cartref, rhif ffôn symudol, rhif ffôn cartref a’ch cyfeiriad e-bost.
- Eich manylion gyrfa (CV) a’ch rhestr gweithiau
- Bywgraffiad byr (manylion bywyd), dim mwy na 100 o eiriau
- Datganiad yn disgrifio:
- y gwaith yr hoffech chi ei greu dan y comisiwn
- sut fydd y gwaith yn cyd-fynd â’i amgylchfyd ac yn ymateb iddo
- sut fydd y gwaith yn cyflwyno’i hun / denu ymateb y gynulleidfa
- Enghreifftiau o’ch gwaith blaenorol. PEIDIWCH ag anfon ffeiliau sain neu fideo.
- Mae croeso i chi anfon dolenni/lincs eglur ac uniongyrchol at e.e. Soundcloud, Vimeo, eich gwefan eich hun.
Does dim rhaid talu ffi i gyflwyno cais. Y syniad – i’w gynnig ar ffurf disgrifiad 2 ochr A4 neu 1000 o eiriau, a’i anfon:
- edrwy e-bost at: post@soundlands.org (teipiwch ‘COMISIWN BANGOR’ neu ‘COMISIWN CWM IDWAL’ yn y blwch testun).
- drwy’r post at: Cais Soundlands, Ciafaic, Heol Watling, Llanrwst, LL26 0LS (nodwch ‘COMISIWN BANGOR’ neu ‘COMISIWN CWM IDWAL’ yn eglur ar du blaen yr amlen).
Gwybodaeth Pellach
Mae Soundlands dan reolaeth Datrys. Ymholiadau pellach i Sioned Davies: post@soundlands.org | +44 (0)1492 642291 D.S. Mae hwn yn gais am syniadau, does dim angen mân fanylion na manylion cost ar hyn o bryd.
Mwy am Seindiroedd
Mae Seindiroedd yn brosiect nid-er-elw. Y bwriad ydi gwneud cyfraniad cadarnhaol i gyffiniau gyda gweithiau celfyddyd sain. Ymhlith ei digwyddiadau blaenorol roedd ‘Trawsblannu Piano’ gan Annea Lockwood (UDA), ‘Cynghanedd Pont Menai’ gan Jodi Rose (Awstralia) a ‘Toriad’ gan Manuel Rocha Iturbide (Mecsico).
Diolchiadau
Mae Seindiroedd wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae comisiwn Soundlands ar gyfer Cwm Idwal yn cael ei gynnig mewn partneriaeth â Phartneriaeth Cwm Idwal. Llun Cwm Idwal ddefnyddiwyd gyda chaniatâd caredig gan Michael Tekel www.tekelphoto.com – Enillwr Cystadleuaeth Llun Parciau Cenedlaethol y DU