Wet Sounds 2

Wet Sounds – Joel Cahen (Israel / England)

holl ogoniant y clyw, drwy gyfrwng dŵr

Gwener 7 Mawrth 2014, 8.00pm
Pwll Nofio Bangor

Daw Wet Sounds yn ôl i Fangor! Perfformiad cerddorol tanddwr ym Mhwll Nofio Bangor! Nofiwch, arnofiwch, plymiwch i bwll rhyfeddol o sain wedi ei gynhyrchu gan seinyddion tanddwr arbennig.

  • Cerddoriaeth fyw yn cael ei berfformio gan rocwyr-syrffio Y Niwl

hefyd

  • cerddoriaeth byw gan Joel Cahen, Chaparral Andrew Hodges & I,Demons
  • pherfformiad o gelf scwba tanddwr gan Megan Broadmeadow
  • coreograffi newydd ar gyfer y dŵr gan Lisa Spaull wedi’i gyflwyno gan Ddawns i Bawb
  • ffilm gan Conor Horgan wedi’i gyflwyno gan Migrations

Bydd WetSounds yn creu dau ofod sain yn adeilad Pwll Nofio Bangor, y naill wedi ei wahanu oddi wrth y llall gan wyneb dŵr y pwll. Crëwch eich ‘mics’ eich hun drwy nofio ar wyneb y pwll, plymio i’w ddyfnderoedd neu eistedd ar ei ymyl yn y caffi.

Mae’r digwyddiad unigryw yn dychwelyd ar ol i’r perfformiad werthu allan y tro dwythaf.

Wet Sounds

“profiad hynod o uniongyrchol, does dim modd dianc rhag ei swyn” – The Guardian

“fel dychwelyd i’r groth” – Mizled Youth

“prin y gwelwch chi arddangosfa fwy llwyddiannus” – The Wire

Y Niwl

“sylwedd wych” – The Times 

braf fel dip yn arfordir Cymru yn fôr yr Iwerydd” – NME

Ticedi

Archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Pris Llawn £10 / Gostyngiad £7
+44 (0)1248 382828
Stop Pontio
prynwch ar-lein: pontio.co.uk

About the Artist

Joel Cahen was born and raised in Israel, and currently lives and works in London. He is an audio and visual practitioner and curator and organiser of experiential art events.

Since 2002 he has been organising multi-disciplinary art events in London, singular music events and events series such as Evil ArtThe Wormhole SaloonScrap Club, public Destructivist art activity, Wet Sounds the sound-based augmented reality project Interzone Theatre.

His long-running weekly radio shows on London’s Resonance 104.4FM explores live improvised sound collage, cacophony and plunderphonics.

He works on sound installations and performances in public spaces such as libraries, swimming pools and galleries. His work was exhibited/performed across Europe, Australia and North America at ISEA, AV Festival, All Tomorrows Parties, The Whitechapel Art Gallery, Tate Britain, Ultima Festival, Helsinki Festival, Elektroni(k) and more.

Nodyn

  • Dewch ch gwisg nofio (anffurfiol e.e. crys-t os y dymunwch) a llian cynnes neu gwn ymolchi i ymlacio wrth yml y pwll.
  • Croeso i nofwyr a bobol nad ydynt yn medru nofio o bob safon.

 

 

Cydnabyddiaethau

Mewn cydweithrediad â Pontio, mae Wet Sounds yn cael ei guradu gan Joel Cahen. Daw Wet Sounds i Bangor fel rhan o daith o amgylch Prydain yn cynnwys Glasgow, Ledbury, Kirkwall, Dundee, Bryste, Llundain a Belfast. Mae’r daith yn cael ei gefnogi yn garedig gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Creative Schotland a Sain a Cherddoriaeth. Diolch i Gwynedd S.ub Aqua Club

Funders & Sponsors