Weather Gage

Weather Gage – Yann Seznec (UDA / Yr Alban)

15 – 20 Mawrth 2011
Garth Pier, Bangor (ar agor 8.30am – 5.30pm)

mewn cydweithrediad â bloc y gogledd

Mae Yann Seznec yn gosod gwaith celf sain newydd ar Bier Bangor. Mae Weather Gage yn defnyddio meicro-technoleg i alluogi’r tywydd i greu cerddoriaeth!

Melinau gwynt bach, ‘solenoids’ a sustemau trydanol sy’n cysylltu gwynt y pier at glockenspiels mewn pafilwn bach ar ben y pier.

Tasseography

Elizabeth Edwards ac Adam Cooke

Yn y cyfamser, mewn pafiliwn arall mae bloc y gogledd yn cyflwyno Tasseography gan Elizabeth Edwards ac Adam Cooke.

Mae Tasseography yn ddarn o gelfyddyd sain ryngweithiol fydd yn cymell y gynulleidfa i feddwl am bwysigrwydd te yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Mae’r artistiaid yn defnyddio set de enfawr a synwyryddion i greu rhyngwyneb cerddorol sy’n golygu mai’r gynulleidfa fydd y perfformwyr.

Blog

Gwelwch flog Weather Gage Yann Seznec  blog.

Lluniaeth

Mae bwyd a diod ar werth yn ystafell de Pier y Garth.

Refreshments

Refreshments available on Garth Pier at the Tearooms.

Mynediad

Weather Gage a Tasseography YN RHAD AC AM DDIM. Mynediad i Bier y Garth – 25c.

Oeddech chi yn gwybod?

Daw’r enw Weather Gage neu ‘mantais y gwynt’ yn Gymraeg o’r hen derm morwrol am leoli llongau mewn brwydr. Mae o hefyd yn derm am beiriant sy’n mesur y tywydd.

Cydnabyddiaeth

Presented by Soundlands for Bangor Sound City in association with Pontio.

Comisiwn ar y cyd rhwng Dinas Sain Bangor a bloc y gogledd. Elizabeth Edwards ac Adam Cooke o Brifysgol Glyndŵr. Mae Dinas Sain Bangor yn derbyn arian gan Pontio ac yn cael ei reoli gan Datrys. Diolch i Gyngor Dinas Bangor

Funders & Partners