Songsmith

Songsmith – Jenna Burchell (De Affrica)

8 – 29 Feb 2016 | Am ddim

  • Eglwys Gadeiriol Bangor
  • Prifysgol Bangor
  • Y Pier

Mae ail dymor Seindiroedd yn dod i ben gyda phrosiect gosodiadau a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer dinas Bangor gan yr artist o Dde Affrica, Jenna Burchell.

Ar gyfer ei gwaith Songsmith, mae Jenna wedi dod o hyd i holltau disylw ym mhensaernïaeth y ddinas ac wedi eu llenwi â chelfyddyd sain. Mae tair rhych, hollt neu fwlch wedi eu canfod mewn waliau, gwrthrychau a strydoedd ym Mangor ac wedi eu ‘trwsio’ gydag offeryn sain o’r enw songsmith.

Mae gan bob songsmith gôd QR unigryw sy’n eich galluogi – drwy ddefnyddio ffôn clyfar – i glywed synau tirlun sain a grëwyd yn arbennig ar gyfer y lleoliad hwnnw.

Mae’r darnau hyn o gelfwaith i’w cael wrth Eglwys Gadeiriol Bangor, ar gyrion Prifysgol Bangor ac ar y Pier.

Bu i mi ddewis yr holltau cywrain hyn oherwydd eu hanes, a chyfoeth eu hanesion am brydferthwch bywyd – er gwaethaf ei holl gymhlethdodau ac amherffeithrwydd.” ” ― Jenna Burchell

Er mwyn trwsio’r holltau, mae Jenna wedi creu castiau unigryw yn null y gelfyddyd ac athroniaeth Japaneaidd, Kintsukuroi, sy’n arddel defnyddio farnais euraidd i drwsio llestri.

Yn ystod mis o waith artist preswyl ym Mangor, bu Jenna’n siarad â’r bobl leol er mwyn casglu deunydd ar gyfer y ‘baledi clywedol’. Testun a chynnwys y baledi unigryw hyn ydi syniadau pobl ym Mangor ynglŷn â chartref, tir, atgof a diwylliant mewn perthynas â’r lleoliad penodol hwnnw.

Sut mae defnyddio’r songsmith

  • Mae angen ffôn clyfar sy’n cysylltu â’r we.
  • Lawrlwythwch ap sganio QR ar gyfer ffonau iPhone ac Android.
  • Defnyddiwch yr ap sganio i sganio côd QR y Songsmith.
  • Gwrandewch ar dirlun sain y lle hwnnw ar eich ffôn clyfar.

Yr Artist

Mae Jenna Burchell yn artist o Dde Affrica ac wedi ennill gwobrau am ei gwaith. Mae ei gwaith gan amlaf ar ffurf cerfluniau, perfformiadau a gosodiadau rhyngweithiol enfawr sy’n dod â chelfyddyd, technoleg a phobl at ei gilydd mewn ffyrdd ystyrlon. Mae hi’n credu bod modd defnyddio’r elfennau hyn i ysbrydoli dyfodol y profiad dynol.

Mae proses creu Jenna, lle mae hi’n cydweithredu â chymunedau, llefydd a gwledydd o gwmpas y byd, yn croesi ffiniau sawl maes a diwydiant gwahanol. Mae ei gwaith wedi ei arddangos mewn arddangosfeydd cenedlaethol a rhyngwladol.

Dyfyniadau yn y wasg o adolygiadau o waith blaenorol :

“gwir gampwaith” – After Nyne

““[mae ei gwaith] yn fath o fod ollberthnasol, yn adeiladu cysylltiadau mirain rhwng pobl a diwylliannau gwledydd gwahanol” – Be Art Magazine

“Yr hyn sy’n fwyaf trawiadol yn ei gwaith ydi’r defnydd o sain i greu cofnod argraffiadol o le ac o atgof” – Artsy

jennaburchell.com

Comisiynau Soundlands

Dewiswyd Jenna Burchell o blith dros gant o artistiaid o dros y byd a gyflwynodd gynigion am gomisiynau celfyddyd sain Soundlands ym Mangor a Chwm Idwal.

Dewiswyr: Ceri Hand, Annea Lockwood, Janek Schafer, J Milo Taylor, Yann Seznec, Guto Roberts.

Fedrwch chi hefyd fwynhau Teffradot – comisiwn taith opera ar gyfer Cwm Idwal gan Rebecca Horrox.

Songsmith | (enw) anffurfiol | Offeryn sain rhyngweithiol sy’n cael ei osod am gyfnod mewn rhych, hollt neu fwlch mewn wal, gwrthrych trefol neu stryd. Pan gysylltwch chi â songsmith bydd yn canu baled i chi am y lle, am ei hanes ac am y bobl sy’n galw’r ardal honno’n gartref.

Kintsukuroi: (enw) (berf ymadroddol) “Trwsio gydag aur”; crefft Japaneaidd o drwsio llestri gyda farnais aur neu arian yn y ddealltwriaeth fod y darn yn fwy prydferth wedi ei dorri.

Although the Songsmith exhibition is now finished, you can still listen to Burchell’s ‘aural ballads’:

Diolchiadau

Fyddai’r prosiect ddim wedi digwydd heb y cyfranwyr a’r noddwyr canlynol:

 

Cyfranwyr Allweddol

“Bu imi gyfarfod ag amryw byd o eneidiau yn ystod fy nghyfnod ym Mangor ac mae’n ofid gen i fethu â chofnodi enw pob un. Rydw i’n ddiolchgar iawn i bob un ohonoch chi, ond fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i’r bobl allweddol canlynol.” – Jenna Burchell

Alex Bailey

“Roedd Alex yn rhan allweddol o’r gwaith o greu’r tirluniau sain. Mae pob sŵn cefndir yn y tirluniau sain wedi ei greu o’r lleisiau a synau amgylchfyd a recordiwyd yn lleoliadau’r gwahanol Songsmiths. “Mae gweithio gydag Alex fel cyflwyno i’r bydysawd yr holl synau sy’n troelli o gwmpas y pier, y brifysgol a’r eglwys, a’u cymysgu nhw â hud yr oesau cyntefig.” – JB

Wyn Thomas

“Am ei groeso i ddieithryn mewn tref newydd, am ei gefnogaeth ddiwyro ac am ddod â mi i gysylltiad â thrigolion dinas Bangor. Mi fuaswn wedi bod ar goll hebddo.” – JB

Tim Cumine

“Dydy hi ddim yn beth hawdd creu gwaith rhyngweithiol newydd mewn mis, a hynny mewn dinas ddieithr. Fe roddodd y gweithiwr creadigol lleol Tim Cuming o’i amser yn hollol ddiamod i’m helpu i. Diolch Tim, fuaswn i ddim wedi gallu ei wneud o fel arall.” – JB

TOGY

“Mae’r lloches greadigol hon yn llawn o ganu, chwerthin, artistiaid, cerddorion, coedwigwyr a hyd yn oed sinc cegin. Fe roeson nhw i fyny efo fi’n morthwylio, drilio, sandio, cymysgu cemegau ac yn gwneud pob math o lanast. Diolch TOGY am adael i mi weithio yn eich stiwdios ac am eich cwmni gwerthfawr.” – JB

image TOGY

The Old Goods Yard (TOGY)

Sioned Davies

“Diolch anferth i’r ferch ifanc alluog yma. Bu hi’n gefn imi ac yn graig ar adegau simsan.” – JB

Dominic Chennell

“Diolch i ti am weithio gyda mi yn nyddiau olaf y gwaith at y gwahanol safleoedd. Bu inni fethu’r trên, ond yn sicr nid y cyfle.” – JB

Leinster Grimes

“Rydw i wedi bod yn lwcus iawn o gael gweithio efo ti, hynny dros sawl blwyddyn ac yn aml yn ystod oriau mân y bore, yn sodro cylchedau. Diolch i ti am dy amser, dy sêl a’th gefnogaeth diflino i’r gwaith electronig.” – JB

llun Creu Songsmith

Creu Songsmith

Bangor image

Bangor

Diolch Hefyd

  • Colin Daimond (TOGY)
  • Dawn Worsely (am sicrhau caniatâd ar gyfer y lleoliadau)
  • Andrew Lewis (am adael imi weithio yn Stiwdios Cerddoriaeth Electroacwstig Prifysgol Bangor)
  • Emyr Wyn Hughes (Adran Ystadau Prifysgol Bangor. Swyddog Technegol)
  • Mark Warwick (am glirio ei stiwdio imi gael gweithio ynddi)
  • Stanley Stewart (am osod trydan ar gyfer safle’r pier)
  • Susan Booth (Ysgrifenyddes Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth ar Ofal Eglwysi / Swyddog Datblygu a Chadwraeth Eglwysi.)
Cyfarfod Maerod Bangor - llun

Cyfarfod Maerod Bangor

Cyfranwyr Sain

  • Ben Agenten
  • Bethan Parry
  • Caenwen
  • Congregasiwn Cadeirlan Bangor
  • Côr Ieuenctid Cadeirlan Bangor
  • Côr Siambr Prifysgol Bangor
  • Côr y Penrhyn
  • Yr Canon Ddr David Fisher
  • Derek Hainge
  • Doreen Madge
  • Doug Madge
  • Eve Butler
  • Hedd Thomas
  • John Martin
  • John Ogwen
  • Joseph Harper
  • June Marshell
  • Keith Marshell
  • Mared Emlyn
  • Sally Harper
  • Terry Thomas
  • Wyn Thomas
llun Telyn Mared Emlyn

Telyn Mared Emlyn

llun Côr y Penrhyn

Côr y Penrhyn

Terry on Garth Pier image

Terry

Pobl Eraill

“Ac yn olaf, Kate Roden yn Mount House am roi llety imi, ac i’m ffrindiau ym Mangor, Adrian Mendonca, Elly Chang, Pavni Mehra, Jaremdi Wati Longchar, Louie Pereira. Diolch i chi am fod yn gwmni i mi ac am fy llenwi â’ch chwerthin. Bydded i ni gyfarfod eto.” – JB

delwyddau diolch i’r artist

Noddwyr