Songsmith Prifysgol Bangor

Dewch o hyd i Songsmith Prifysgol Bangor ar ‘lonely lane’, llwybr troed yn erbyn wal derfyn adeilad Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor. Mae’n canu cân am atgof, a hwnnw’n un sy’n mynd yn ôl at ddechrau’r brifysgol. Mae’n dilyn hanes llafar yr hen gloddwyr llechi ym Methesda oedd yn rhoi canran o’u cyflog bychan bob mis tuag at adeiladu’r brifysgol er mwyn i’w plant gael bywydau gwell na’u bywydau nhw.

Doedd y rhain ddim yn ddynion cyffredin o gwbl; yn eu plith, er gwaethaf eu hamgylchiadau, fe wnaethon nhw ffurfio corau a dod yn feirdd, cerddorion ac ysgrifenwyr. Un o blant y cloddwyr, yr actor Cymraeg John Ogwen, cyfansoddwyr a cherddorion y brifysgol, Côr Meibion Penrhyn a’r darlithydd Cerddoriaeth presennol Wyn Thomas sy’n adrodd yr hanes.

Hyd heddiw, mae curiad bywyd y ddinas wedi ei glymu’n annatod gyda’r brifysgol ac yn ei dro gyda cherddoriaeth, barddoniaeth ac ysgrifenwyr; mae’n dystiolaeth wych o’r caredigrwydd hwn mewn cyfnod anodd. Mae hefyd yn atgof o ba mor gryf ydy ewyllys da, gan ychydig o bobl, a sut gall hyn newid y dyfodol gan mlynedd yn ddiweddarach.

Cyfranwyr Sain: Côr Meibion Y Penrhyn, John Ogwen (adroddwr), Wyn Thomas (adroddwr), Mared Emlyn (Telynores), Côr Siambr Prifysgol Bangor (cân), Bethan Parry (ymchwilydd), Ben Agenten (cornet), Hedd Thomas (cyfansoddwr ‘Si hei lwli ‘mabi’).