Galwad Agored – Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag

Galwad Agored – Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag
Gorffennaf 24, 2021 admin

Y dyddiad cau ydy hanner nos 14 Medi, 2021

Crëwch gyfansoddiad sain newydd ar gyfer yr albwm ‘Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag’.

Defnyddiwch recordiadau o’r ffrwd fyw 24 awr Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag fel eich deunydd

Caiff cyfansoddiadau sydd wedi’u dewis eu rhyddhau fel albwm digidol ar y cyd gyda label cerddoriaeth arbrofol o Gymru Amgueddfa Llwch.

Sut mae cyflwyno

  1. Darllenwch y cwestiynau cyffredin isod.
  2. 2. Crëwch gyfansoddiad sain newydd gan ddefnyddio’r SAIN SAIN WREIDDIOL hon.
  3. Uwchlwythwch eich cyfansoddiad sain YMA.
Mwy am y Ffrwd fyw Sain Wreiddiol Uwchlwytho

Cwestiynau Cyffredin

Pwy all gymryd rhan?

Unrhyw un. Er enghraifft, fe allwch chi fod:

  • yn unrhyw ran o’r bydin any part of the world
  • ag unrhyw fath neu ddim profiad blaenorol
  • o unrhyw oed

Ydy fy nghyfansoddiad sain newydd yn gallu bod yn unrhyw beth?

Mae’n rhaid i’ch cyfansoddiad fod:

  • yn defnyddio’r sain wreiddiol yn unig fel eich deunydd (o ffrwd fyw a recordiadau 24 awr Plas Bodfa)
  • yn gyfansoddiad newydd sbon
  •  wedi ei gyflwyno trwy’r ffurflen ar-lein erbyn hanner os ar y 14eg o Fedi 2021, (amser Prydain).

Gall eich cyfansoddiad fod:

  • o unrhyw genre neu steil
  • o unrhyw hyd
  • wedi’i olygu, ei gymysgu, ei drin, ei brosesu neu ei samplo mewn unrhyw ffordd o unrhyw ddarn neu o’r holl sain wreiddiol

Ar ba ffurf mae’r sain wreiddiol?

Mae’r sain wreiddiol ar gael fel ffolderi WAV. Mae yna:

  • Recordiadau o’r ffrwd fyw 24 awr wedi’u creu gan 24 artist, wedi’u gwahanu i’r darnau unigol awr o hyd. Mae pob darn yn cynnwys
    • cymysgedd ffrwd fyw stereo terfynol (un ffolder)
    • wyth cymysgedd grŵp (wyth ffolder)

Cafodd y cymysgedd grŵp eu recordio o’r ddesg gymysgu ‘group busses’ cyn cyfuno’r synau i’r gymysgedd stereo terfynol. Mae hyn yn eich galluogi chi i fynd at rhai synau ar wahân.

  • Recordiadau ychwanegol:
    • Recordiadau arwahanol o’r tŷ dan amodau gwyntog mewn 10 lleoliad (10 ffolder)
    • proses creu sain gan etchasketch o’r winwydden Virginia sy’n tyfu yn Ystafell 1 (un ffolder)
    • ffolderi yn yr ystafell fyny’r grisiau (un ffolder)

Ydw i’n gallu cyflwyno mwy nag un trac?

Ydych, ond mae’n rhaid ichi eu cyflwyno ar wahân.

Beth am hawlfraint a gwerthiant?

Rydych chi’n cadw unrhyw hawlfraint yn eich cyfansoddiad sain newydd. Rydych chi’n caniatáu inni gynnwys eich cyfansoddiad sain ar yr albwm ‘Synau Tŷ Gwag’. Bydd yr albwm ar gael am ddim. Bydd dim angen talu unrhyw ffi.

Credits

Mae ‘Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag’ yn prosiect gan Seindiroedd a Plas Bodfa Projects mewn cydweithrediad â Amgueddfa Llwch.

Partners & Funders