Gosodiadau celf o’r dosbarth rhagoriaeth

Gosodiadau celf o’r dosbarth rhagoriaeth
Gorffennaf 28, 2011 admin

Bu’r rhai a gymerodd ran yn nosbarth rhagoriaeth Iturbide greu gosodiadau celf ar gyfer Cadeirlan Bangor. Bydd y gosodiadau i’w gweld o ddydd Iau yma, y 29ain, hyd at ddydd Sadwrn yr 31ain, yn ystod oriau agor arferol y Gadeirlan.

Mae gosodiad Ed Wright, Scott Flesher, Andrew Hodges ac Alastair Attard – ‘Wordless Sound’ – yn canfod curiad cyffredin yn sŵn adrodd Gweddi’r Arglwydd mewn gwahanol ieithoedd, tra bod gwaith chwyth Emma Louis – ‘The Lungs of the City’ – yn dynwared organ bib, ac i’w weld yng ngardd y Gadeirlan.