Comisiynau Arloesi y Celfyddydau ac Addysg

Comisiynau Arloesi y Celfyddydau ac Addysg
Chwefror 14, 2017 admin

Bu i Soundlands dderbyn cyllid sbarduno ar gyfer ymchwilio’r buddion dichonol ynghlwm â thechnegau gwrando wedi eu datblygu yn y sector creadigol – a hynny ar gyfer addysg prif ffrwd. Caiff ‘gwrando i ddysgu, dysgu i wrando’ ei ddatblygu yn ystod 2017 mewn partneriaeth ag Ysgol Bro Gwydir.

Mae Comisiynau Arloesi Y Celfyddydau ac Addysg Edau yn annog mudiadau celfyddydau, ymarferwyr ac ysgolion i gynnal prosiectau arloesol yn cynnig cyfle i ddatblygu syniadau cyffrous ynghyd â chynnig datrysiadau creadigol i fynd i’r afael â thrafferthion y byd addysg heddiw ac yn y dyfodol.