Annea Lockwood

Annea Lockwood
Ionawr 14, 2015 admin

“Yn 2012 fe gefais y fraint ddymunol o weithio gyda Soundlands a Dinas Sain Bangor i gyflwyno un o’n Nhrawsblaniadau Piano, Llosgi Piano – digwyddiad oedd yn llawn dychymyg o ran ei drefniadau ac roedd y  gwaith cofnodi’n hyfryd. Rydw i wrth fy modd felly’n cael cyfle i weithio unwaith eto gyda Soundlands, y tro hwn fel detholwr. Rydw i’n gyfansoddwr ac yn artist sain sy’n canolbwyntio’n benodol ar amgylcheddau a safleoedd naturiol o’r math y mae Soundlands yn ei fwriadu ar gyfer dau o wiethiau celf, un ym Mangor a’r llall yng Nghwm Idwal. Mae gwaith safle-penodol yn waith arbennig o werthfawr fy marn i, gyda’r potensial i greu ymwybyddiaeth ddofn yn yr artist a’r ymwelydd o amgylchedd benodol – a hynny ar adeg pan fod gwir angen y sensitifrwydd hwnnw.”